OlwenRICHARDS20 Gorffennaf 2023 Hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, yng nghwmni ei theulu, ac o Gartref Rhos, Malltraeth, gynt o Bod-Nant, Llangefni, Ynys Môn, yn 79 mlwydd oed. Merch annwyl y diweddar William a Nancy Richards, Bodeilio, Talwrn a chyfnither a modryb hoff. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Cana, Rhostrehwfa, ddydd Llun, 31 Gorffennaf am 1 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Llanddyfnan. Blodau'r teulu yn unig os gwelwch yn dda. Ymholiadau pellach i'r ymgymerwr Arwyn Hughes, Bryn Hyfryd, Dulas, Ynys Môn, LL70 9PJ a'r Hen Fecws, Marian-Glas, Ynys Môn, LL73 8PE. Ffôn: 01248 410353
Keep me informed of updates